Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (92)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Comisiynydd Plant Cymru i lansio ymchwiliad newydd i gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-Drefnu Addysg Uwch (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb i adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – Adroddiad Cynnydd Chwe Mis – gohiriwyd tan 13 Tachwedd (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Wyddoniaeth - gohiriwyd (30 munud) |
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl (15 munud) NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau
Ategol
|
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy'n ymwneud â'r Banc Buddsoddi Gwyrdd (15 munud) NDM5040 Edwina Hart (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau Ategol I weld copi o’r Bil ewch i:
|
9. Dadl ar Ymgynghoriad ar Bolisi Adfywio yn y Dyfodol (60 munud) NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’. Mae’r ymgynghoriad ar gael drwy fynd i’r ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?lang=cy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at Orllewin Cymru o gwbl. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig unrhyw dargedau y mae modd eu mesur. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru a’i seilwaith trafnidiaeth. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.
|
10. Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud) NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’. Mae copi o’r adroddiad ar gael yn: http://www.equalityhumanrights.com/hafan/cymru/cyhoeddiadau-yng-nghymru/sicrhau-agenda-gydraddoldeb-a-hawliau-dynol-gref-adolygiad-cymru-2011-12 Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.
|
Cyfnod Pleidleisio The item started at |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2012